Vera Figner

Vera Figner
Ganwyd25 Mehefin 1852 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Kazan’ Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mehefin 1942 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
Alma mater
  • Prifysgol Zurich
  • Sefydliad Kazan Rodionovsky Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweithredydd gwleidyddol, bywgraffydd, cofiannydd, ysgrifennwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Gynulliad Cyfansoddol Rwsia Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolNarodnaya Volya, Plaid y Chwyldro Sosialaidd Edit this on Wikidata

Chwyldroadwr a therfysgwr (yn ôl rhai) o Rwsia oedd Vera Figner (Rwsieg: Ве́ра Никола́евна Фи́гнер Фили́ппова; 25 Mehefin 1852 - 15 Mehefin 1942) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gweithredydd gwleidyddol, bywgraffydd, cofiannydd, a gwleidydd.

Fe'i ganed yn Kazan Governorate, Ymerodraeth Rwsia a bu farw yn Moscfa o niwmonia; fe'i claddwyd ym Mynwent Novodevichy. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Zurich a Sefydliad Kazan Rodionovsky. Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o 'Narodnaya Volya' a Phlaid y Chwyldro Sosialaidd. Hanai ei theulu o'r Almaen ac o Rwsia.[1][2][3]

Yn arweinydd y grŵp cudd, chwyldroadol, Narodnaya Volya (Ewyllys y Bobl), a oedd o blaid defnyddio terfysgaeth i ddymchwel y llywodraeth, cyd-gynllwyniodd lofruddiaeth lwyddiannus Alexander II ym 1881. Arestiwyd Figner a threuliodd 20 mis tan glo, ar ei phen ei hun cyn y cafodd ei rhoi ar brawf, lle dedfrydwyd hi i farwolaeth. Cymudwyd y ddedfryd wedi hynny a charcharwyd Figner yng nghaer Shlisselburg am 20 mlynedd cyn cael ei hanfon i alltudiaeth.

Daeth Figner yn hynod o boblogaidd yn rhyngwladol, yn bennaf oherwydd ei chofiant, lle rhannodd ei phrofiadau a gyfieithwyd yn eang. Cafodd ei thrin fel eicon arwrol o aberth chwyldroadol ar ôl Fevrálʹskaya revolyútsiya (Chwyldro Chwefror) ym 1917 ac roedd yn siaradwr cyhoeddus poblogaidd yn ystod y flwyddyn honno. Yn ddiweddarach daeth Figner yn amlwg yng 'Nghymdeithas y Cyn-Garcharorion Gwleidyddol ac Alltud yn yr Undeb Sofietaidd' nes iddo gael ei ddiddymu ym 1935.

Llwyddodd Figner i oroesi 'Terfysgaeth Fawr' 1937 a bu farw o achosion naturiol ym Moscfa ym 1942 yn 89 oed.

Vigner yn 1930
  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb128678735. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb128678735. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 19 Gorffennaf 2024.
  3. Dyddiad marw: А. М. Прохорова, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135 http://www.britannica.com/biography/Vera-Nikolayevna-Figner. "Vera Nikolayevna Figner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Vera Figner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Vera Figner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Wera Nikolajewna Figner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search